Wici Pobol y Cwm
Advertisement

Cyn-wr Cassie, cefnder i Glan, a tad Chester a Catrin Monk.

Roedd Teg yn ymwelydd cyson â Chwmderi, yn aros a'i gefnder Glan ym Maes y Deri. Daeth ei wraig, Cassie yn ffrindiau agos hefo Jean McGurk, partner Glan.

Bu Teg yn byw gyda'r sawl affêr oedd Cassie wedi ei chael tra'r oedden nhw wedi priodi. 'Roedd yn gwybod y cwbl am anturiaethau ei wraig ond dewisodd gadw'n dawel gan ei fod yn teimlo'n lwcus ei fod yn wr i Cassie.

Cancr Glan[]

Ym 1995 cafodd Jean McGurk wybod fod canser ar ei ysgyfaint ar Glan a rhoddodd y meddygon chwe mis iddo i fyw. Rhannodd Jean y newyddion a Teg a Cassie a bu dadl rhyngddynt os dylai rannu'r newyddion a Glan ei hun neu ddim. Torrodd Mrs Mac y newyddion trist wrtho ym medydd Daniel. Wrth i'w gyflwr waethygu penderfynodd Teg a Cassie symud i Gwmderi i geisio bod yn gefn i'r teulu.

Bu Cassie yn gweithio yn Siop y Pentre tra bod Olwen Parry yn Sbaen a chynigiodd y cwpwl edrych ar ôl y Deri tra bu Glan a Jean i ffwrdd yn America, ond galwyd Cassie yn ôl i'r gogledd pan gafodd ei mam Beryl gwymp.

Dychwelodd Cassie i'r de i weld cyflwr Glan yn dirywio yn sydyn. Bu farw Glan yn heddychlon ar 16 Mai tra ar bicnic gyda'i deulu.

Ar ôl marwolaeth Glan arhosodd Cassie a Teg yng Nghwmderi i helpu Mrs Mac i redeg y Deri Arms.

Galar Jean[]

Cafodd Jean McGurk gyfnod anodd iawn yn dilyn marwolaeth Glan. Er iddi gael cefnogaeth Teg a Cassie i redeg y Deri a chwmni ei phlant Sean a Kirstie McGurk ar gyfer yr angladd fe darrodd ei galar yn galed yn dilyn y seremoni.

Trodd at alcohol fel cysur a bu Cassie yn enwedig yn poeni amdani. Ar un achos bu'r ddau yn trio eu gorau i atal Jean rhag dreifio ar ôl cael gormod i yfed ond yn ofer.

Aeth Jean yn ei blaen yn y car i nôl llwch Glan ond llwyddodd i daro car arall yn y maes parcio. Pan alwodd perchennog y car arall doedd gan Glyn James ddim dewis ond rhoi prawf yfed i Jean. Wedi i'r prawf hwnnw ddangos ei bod dros y limit arestiwyd hi.

Yn teimlo'n euog am y sefyllfa ceisiodd Glyn wyrdroi cwrs y gyfraith er mwyn osgoi cosb Jean drwy ymyrryd a'r sampl dŵr. Cafodd ei ddal tra bod wrthi a chollodd ei swydd o'i herwydd.

Achosodd y digwyddiad hynny i Jean ail-gysidro ei sefyllfa a phenderfynodd roi'r Deri Arms ar y farchnad. Penderfynodd ei bod angen iddi roi'r gorau i yfed ac y byddai hynny yn lawer haws drwy beidio byw uwchben dŷ tafarn.

Dangosodd Ron Unsworth ddiddordeb mawr mewn prynu'r Deri, ac er waethaf gofidion Teg derbyniodd Jean ei gynnig. Ceisiodd Ron ei orau i gael Jean i gyfaddawdu ar y pris a bu yntau a'i frawd Billy yn llawn syniadau am sut i drawsnewid y dafarn. Er hyn, pan ddaeth yr amser i Jean arwyddo'r dogfennau i gadarnhau'r ddêl newidiodd ei meddwl a phenderfynu aros yn ei chartref.

Ar yr un pryd penderfynnodd Jean fod yr amser wedi dod iddi sefyll ar ei thraed ei hun a gofynodd i Teg ddychwelyd adref.


Cartref newydd[]

Ar ymweliad i Gwmderi cafodd Teg Morris ysgytwad difrifol. Roedd gwall ar frêc ei lori a bu bron iddo achosi damwain difrifol. Hyd yn oed ar ôl i’r lori gael ei drwsio ni allai Teg wynebu mynd yn ôl y tu ôl yr olwyn. Daeth Cassie Morris i lawr i Gwmderi i geisio perswadio ei gŵr i ddychwelyd i’w waith ond roedd yntau’n benderfynol.

Yn wynebu dyfodol heb waith ac yn byw ar eu cynilion cychwynnodd Cassie boeni yn arw ond daeth Jean McGurk i’r adwy gyda chynnig annisgwyl. Rhoddodd wahoddiad i Teg a Cassie symud i Gwmderi yn barhaol a rhedeg y Deri gyda hi. Credai Jean ei bod erbyn hyn wedi profi ei gallu i sefyll ar ei thraed ei hunain yn dilyn marwolaeth Glan a'i bod hi’n barod i dderbyn mwy o help o gwmpas y lle. Wedi trafod derbyniodd Teg a Cassie y cynnig a gwneud trefniadau i symud i Gwmderi yn yr Hydref.

Wedi setlo yn eu cartref newydd cychwynnodd Cassie berswadio Jean i fynd allan a mwynhau ei hun. Llwyddodd i’w chael hi i fynychu noson tân gwyllt gyda Daniel ble daeth y ddwy ar draws wyneb cyfarwydd Eddie Lewis. Daeth Eddie yn ymwelydd cyson i’r Deri a dangosodd eithaf diddordeb yn Jean. Dipyn wrth dipyn llwyddodd i gael perswâd arni i ddod allan am bryd o fwyd gydag ef a chychwynnodd hithau weld y posibiliad o fywyd y tu hwnt i Glan.

Pan welodd Teg fod Eddie yn treulio llawer o amser yn y Deri daeth yntau at y canlyniad anghywir fod Eddie yn ceisio hudo Cassie. Gwnaeth Teg ei deimladau yn hollol glir i Eddie a bygwth rhoi cweir iddo os byddai’n mentro ailgynnau pethau gyda’i wraig. Rhannodd Eddie fanylion eu sgwrs gyda Cassie a gafodd sioc enfawr i wybod fod Teg yn gwybod am eu affêr blaenorol.

Gwynebodd Cassie ei gwr a thorrodd ei chalon i wybod fod Teg wedi gwybod erioed am ei holl affêrs, ers cychwyn cyntaf eu priodas. Honnai Teg ei fod wedi bod yn fwy na hapus i wybod na yntau oedd Cassie wedi dewis priodi a'i bod wedi bod yn fodlon anwybyddu ei anffyddlondeb. Roedd Cassie wedi synnu fod Teg wedi cadw’r cyfan yn dawel am yr holl flynyddoedd a thyngodd lw i aros yn ffyddlon iddo o hyn ymlaen.


Prynu'r Deri[]

Pan benderfynodd Mrs Mac adael am Tenerife yn 1997, prynodd Teg a Cassie'r Deri.

Teg a Cassie'n gwahanu[]

Daeth diwedd ar ddiodde tawel Teg pan adawodd Cassie ef a mynd i fyw gyda Huw, tad Steffan. Dilynodd Teg Cassie i Tenerife a'i hennill yn ôl.

Pan ddaeth Teg i wybod fod Cassie'n disgwyl plentyn Huw ceisiodd ei orau i fyw gyda'r sefyllfa, ond methodd.

Aeth pethau o ddrwg i waeth rhwng Teg a Cassie a bu bron i Cassie golli'r babi pan wnaeth Teg ei tharo.

Chwalodd y briodas ond amharod oedd Teg i adael Cwmderi.

Ar ôl cyfnod o iselder penderfynodd mai'r ffordd orau i ddelio gyda'r sefyllfa oedd trwy fod yn ôl ynghanol y pentre a phrynodd siâr yn Siop y Pentref gyda Denzil.

Helynt y teulu Price[]

Yn 2000 roedd trigolion y pentref yn cael trafferthion diddiwedd gan griw o bobol ifanc yn cynnwys Melanie Griffiths ag Alan Price. Roedd y caffi dan reolaeth Diane Francis yn darged cyson yn ogystal â'r swyddfa heddlu ble'r oedd Beryl Nicholas newydd gychwyn sydd newydd fel derbynnydd.

Yn benderfynol o brofi ei bod hi'n abl o wneud y gwaith roedd Beryl yn gyndyn o reportio galwadau ffug y criw hyd yn oed wedi i Reg Harries geisio rhoi perswâd arni.

Ceisiodd Reg gymryd materion i'w ddwylo'i hyn a mynd i gael gair hefo tad Alan, Frank Price. Doedd fawr o groeso ar yr aelwyd; gyda Frank yn ymddwyn yn fygythiol â'n hollol anfodlon o dderbyn y cwynion yn erbyn ei fab.

Yn sgil ymddygiad y criw ifanc penderfynodd rai o'r trigolion gymryd tro yn cadw golwg tu allan i'r orsaf heddlu. Ar dro Teg Morris llwyddodd Alan Price i'w wthio i'r eithaf drwy sôn am berthynas newydd Cassie Morris a Hywel Llywelyn a tharodd Teg ef.

Doedd Frank ddim yn hapus o glywed am weithred Teg ac roedd yn benderfynol o ddial. Ceisiodd Dyff Jones ddychryn Frank ond gwneud pethau'n waeth wnaeth hynny. Torrodd Frank a'i griw i mewn i'r fflat uwchben siop y pentref ble'r oedd Teg wedi bod yn aros heb wybod fod Teg eisoes wedi penderfynu gadael y pentref am gyfnod. Un oedd adref yn y fflat fodd bynnag oedd Denzil ac ymosodwyd arno yn ffyrnig.

Heb dystiolaeth bu'n rhaid i'r heddlu ryddhau Frank a bu'n mwynhau profocio Dyff. Yn anfodlon gadael i bethau fod trefnodd Dyff i gyfarfod Frank yn hwyr un noson gyda'r bwriad o gwffio. Yn anffodus i Dyff daeth Frank a'i griw gydag o i ymosod arno yn ddidrugaredd.

Teulu newydd[]

Wedi dychwelyd i Gwmderi unwaith eto cafodd waith yn helpu Meic Pierce yn Y Sosban Chips.

Cyn bo hir cafodd ei ddilyn i Gwmderi gan Garry a Brandon Monk, dau frawd o Nescastle oedd yn chwilio amdano ar ran eu chwaer Britt.

Bu i Teg a Britt gyfarfod eu gilydd pan oedd yn gweithio yn drefio loris a hithau yn gweithio mewn cantîn yn yr un cwmni yn Newcastle. Bu perthynas y ddau'n un hapus tan iddi gyhoeddi ei bod yn disgwyl. Yn ddiarwybod iddi roedd Teg yn credu nad oedd yn gallu cael plant. Yn credu bod Britt wedi bod yn anffyddlon fe'i gadawodd hi a dychwelyd i Gwmderi.

Er nad oedd y Monks yn gwybod dim o hanes Teg, llwyddod Garry a Brandon ddod o hyd iddo - yr unig beth roedd hi'n wybod amdano oedd ei fod yn arfer rhedeg Y Deri Arms. Rhoddodd Garry a Brandon grasfa i Teg ond pan ddaethon nhw a Britt draw i'r pentref i'w wynebu achosodd y ffrae i Chester gael ei eni dair wythnos yn fuan.

Er bod Brandon a Garry am ei waed, profodd prawf DNA mai Teg oedd tad Chester wedi'r cyfan, a phenderfynodd Britt a Teg fyw gyda'i gilydd fel cwpwl.

Roedd y berthynas yn newid byd i Teg a bu sawn camddealtwriaeth rhwng y ddau yn y dyddiau cynnar. Bu anghytuno mawr ar enw'r babi, gyda Teg yn benderfynnol o gael enw Cymraeg fel Peris ond Britt a'i bryd ar ei alw'n Chester ar ôl y ddinas ble cafodd ei genhedlu.

Teg-Morris-Britt-Monk-Catrin

Britt, Teg a Catrin.

Cymerodd Teg ei ddyletswyddau fel tad yn ddifrifol a cyn bo hir roedd Britt yn disgwyl unwaith eto. Ganed Catrin yn 2003.

Marwolaeth[]

Yn 2004, ar ddiwrnod parti penblwydd Catrin gofynodd Cassie am help Teg i chwilio am ei mam, Beryl. Doedd neb wedi ei gweld ers rai wythnosau a roedd rhai o'r trigolion yn cychwyn poeni. Llwyddodd Teg i dorri i fewn i Cysgod Y Glyn, ble'r oedd Beryl wedi bod yn byw gyda'i wyr Steffan. Daeth i'r amlwg fod Steffan wedi bod yn cadw ei nain yn gaeth ond cyn i Teg a Cassie gael cyfle i ffonio'r heddlu daeth Steffan adref a'u dal.

Yn y ffrae a ddilynodd trywannodd Steffan Teg gyda cyllell, ac yno y bu farw.

Yn dilyn ei farwolaeth ceisiodd Steffan ladd ei fam a'i nain ond llwyddodd Cassie i'r daro yn anymwybodol gyda fas. Bu farw Steffan o'i anafiadau.

Categori:Cymeriadau Categori:Cyn Gymeriadau Categori:Y teulu Morris Categori:Perchenogion y Deri Categori:Gweithwyr y Deri Arms Categori:Cymeriadau marw Categori:Ymadawiadau 2004 Categori:Dyfodiadau 1991 Categori:Marwolaethau Categori:Marwolaethau 2004

Advertisement