Wici Pobol y Cwm
Advertisement

Cynghorydd. Gŵr cyntaf Dora, a thad Sandra, Carol a Derek.

Dyma un o gynghorwyr diegwyddor cyntaf Cwmderi.

Yn briod â Dora, roedd ganddo ddwy ferch Sandra a Carol, ond yn anffodus iddo ef, anaml y gwelai'r merched lygad yn llygad â'i ddulliau diegwyddor.

Bu mewn trafferthion pan sylweddolodd Beth Leyshon mai Herbert oedd yn gyfrifol am y galwadau ffôn anweddus oedd hi'n eu derbyn.

Yn ddiweddarach roedd cynlluniau ar droed i chwalu Capel Bethania er mwyn adeiladu ffordd newydd. Darganfu Reg Harries fod gan Eifion Thomas a Herbert ran yn y cynlluniau a bod llawer o'r busnes yn llwgr, a llwyddodd i roi stop ar y cynlluniau.

Bu Herbert yn ddylanwad hefyd ar gael gwared ar Alun Morris o'r capel gan nad oedd yn hoffi ei ddaliadau heddychlon.

Yn 1986 perswadiodd Dora Herbert i roi arian i Dic Ashurst i ddechrau busnes ond ymyrodd Carol a dweud wrth ei thad am beidio â rhoi ceiniog i Dic.

Roedd yn aelod ffyddlon o'r Seiri Rhyddion ac yn gyfaill mawr i Stan Bevan. Ar ôl i berthynas Stan a Sylvia ddod i ben bu Stan yn byw yn ngharafan Gwyther.

Roedd Herbert wrth ei fodd o weld Carol yn closio at Gareth Protheroe, a chafodd siom pan ddychwelodd Dic o'r Falklands, ac i'r ddau ail afael yn eu perthynas.

Bu farw Gwyther ar ganol llymaid o wisgi yn y Deri Arms yn mis Tachwedd 1988 a phan gyhoeddwyd ei ewyllys, darganfuwyd mai ef oedd tad Derek Jones, a'i fod wedi gadael swm sylweddol o arian iddo yn ei ewyllys.

Gwyther yn farw ar far y Deri


Advertisement