Wici Pobol y Cwm
Advertisement

Roedd Gwyneth yn gweithio yng Ngwesty'r Royal pan gwelwyd hi am y tro cyntaf ar 21 Ionawr 2003.

O'r eiliad gyntaf honno, fe greodd argraff ar sawl un gan fygwth cyfraith ar Dai Ashurst. Mynnu iawndal ar ran ei thad yr oedd hi, a bu'n rhaid i Dai werthu tafarn Y Bull yn Llanarthur er mwyn ei thalu ac osgoi achos llys.

Prynnodd Gwyneth Rhif 9 at stryd fawr y pentref, a dechrau canlyn Mark Jones, ond daeth eu perthynas i ben pan welodd e Gwyneth yn rhannu cusan â merch. Collodd Gwyneth ei mam i ganser pan oedd hi'n blentyn, a chafodd ei magu gan ei thad. Tyfodd yn ferch eofn, gyferus yn ei deurywioldeb.

Rhoddodd Gwyneth ei bryd ar Britt Monk tra oedd hithau'n dal i alru am Teg, a chynnig lloches a perthynas gariadus iddi. Bu'n gefn mawr i Britt tra oedd hi'n feichiog â babi Owen Morgan, ond ymosododd y gweinidog ar Gwyneth ar ôl iddi ddarganfod ei fod yn mynd at buteiniaid.

Wynebodd Gwyneth her bellach pan gafodd ddiagnosis o ganser y fron. Daeth drwyddi gyda chymorth ei chyfeillion Jinx ac Anti Marian.

Golygfa-gyntaf-Gwyneth

Roedd yn gymeriad tawelach pan oedd yn rhannu'i chartref a Jinx, a datblygodd fusnes tylino holistig. Ond trowyd ei byd ben i waered ar ôl iddi gysgu gyda Garry Monk - camgymeriad a esgorodd ar fabi. Rhoddodd Gwyneth enedigaeth i Gwern Harley Jones ar soffa yn ei chartre, ond cymerodd sbel iddi gyfarwyddo â'r syniad o fod yn fam. Ystyriodd roi Gwern i'w fabwysiadu, ond newidiodd ei meddwl ar y funud olaf.

Erbyn i Yvonne Evans gyraedd y pentref, roedd Gwyneth wedi dod i garu Gwern, ac ymhen tipyn roedd y tri yn byw fel teulu bach clòs. Priododd y ddwy dydd Nadolig 2010, a bu Yvonne yn graig i Gwyneth pan ddychwelodd y canser. Ond, yn ddiarwybod i Gwyneth, roedd Yvonne yn byw bywyd dwbl fel asiant i't heddlu cydd, ac roedd hi yng Nghwmderi i ymchwilio i droseddau ariannol Garry Monk.

Gwyneth-Jones-Yvonne-Evans-Llinor ap Gwynedd-Tonya-Smith

Bu Yvonne yn gefn i Gwyneth pan ddychwelodd ei chanser

Gwyneth-Jones-Cancer-Llinor-ap-Gwynedd

Gwyneth yn ystod ei thriniaeth canser

Chwalwyd hapusrwydd Gwyneth yn deilchion pan ddaeth i wybod y gwir, ac arweiniodd hyn at ddamwain erchyll, angheuol. Er mwyn dial ar Garry, cyneuodd dân yn fflat wag y Sosban Chips. Rhedodd Brandon Monk i mewn i'r fflat gan feddwl bod Dani yno, ond fe'i lloriwyd gan y fllamau, a bu farw.

Gwyneth-Jones-carchar-Llinor-ap-Gwynedd

Treuliodd Gwyneth gyfnod yn y carchar am gynnau tan yn fflat y siop chips

Ddwy flynedd yn ddiweddarach cyfaddefodd Gwyneth y gwir ar ôl cyfnod o gael ei blacmelio gan Gethin Thomas, ac fe'i henafonwyd i'r carchar. Cafodd hefyd grasfa ddifrifol gan Britt am ladd ei brawd.

Advertisement